Hoffech ymuno gyda’r tîm?
Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn cynnwys gwirfoddolwyr o bob rhan o’n cymuned o bob cefndir. Mae gan nifer sgiliau arbennigol megis sgiliau meddygol, drigno a gwaith awyr agored.
Mae aelodau ein tîm yn cael hyfforddiant rheolaidd ac yn datblygu ystod eang o sgiliau newydd i ategu rhai o’r sgiliau y maent yn eu cyflwyno i’r tîm. Mae ymuno â’r tîm yn ymrwymiad mawr mewn amser.
Mae galwadau yn cael eu derbyn 24/7, pob diwrnod o’r flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy e-bostiwch ysgrifennydd y tîm yn y lle cyntaf.