Dyma yw ein prif waith, bo hyn yn bobl sydd ar goll yn y mynyddoedd, mewn coedwig, neu sydd angen gofal meddygol oherwydd anaf neu salwch. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth chwilio ar gyfer iseldir ein hardal gan gynnwys trefi a phentrefi, er enghraifft mewn achos o blentyn neu oedolyn bregys sydd ar goll. Rydym hefyd yn helpu y timau eraill yn y rhanbarth.
Yn ogystal a chymorth cyntaf sylfaenol, mae llawer o'n haelodau wedi astudio ar gyder cymhwyster arbennig i ddarparu cymorth cyntaf uwch i'n cleifion mwyaf sâl. Mae hefyd barafeddyg profiadol ar y tîm yn ogystal a thri meddyg.
Mae achub â rhaffau technegol yn waith heriol sy'n cynnwys hyfforddiant sylweddol, gwybodaeth arbenigol ac offer. Mae gennym nifer o ardaloedd dringo prysur o fewn ein hardal gan gynnwys clogwyni Tremadog.
Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaeth arbennigol chwilio ac achub dŵr ac yn ymateb i alwadau o fewn ein hardal neu ar draws y rhanbarth fel bo'r angen
Weithiau nid yn unig pobl sydd angen ein cymorth!
Mae'r tîm yn hyfforddi'n rheolaidd yn wythnosol. Mae hefyd sesiynau arebnnig ar gyfer sgiliau megis gofal meddygol, gwaith achub technegol a gwaith achub dŵr cyflym.