Paratoi

Gall paratoi a chynllunio priodol eich helpu i osgoi unrhyw broblemau a mwynhau ein hardal yn ddiogel. Mae hefyd yn golygu eich bod wedi paratoi’n well os byddwch yn dod ar draws problem neu argyfwng meddygol yn gofyn am gymorth.

Dysgwch fwy o wefan Mentro’n Gall:

Ydi’r TYWYDD am fod yn iawn? Cofiwch ei bod tymheredd yn gostwng 2°C pob 300 medr
Ydi’r daith a’r tirwedd yn addas ar gyfer pawb yn eich grwp?
Oes digon o amser i gwblhau’r daith yn ddiogel?
Oes rhywun yn gwybod lle rydych yn mynd, eich llwybr, a’r amser y disgwylir i chi gartref?
Oes Map, Cwmpawd ac efallai dyfais GPS ganoch? Peidiwch a dibynu ar ffôn fel eich unig ffordd o fordwyo
Oes dillad cynnes ac offer gwrth ddŵr? Beth am esgidiau addas? Offer Gaeaf megis cramponau a bwyell iâ?
Oes gennych chi fwyd a diod gyda chi?

Peidiwch ac yfed dŵr o nant, afon na lyn
A oes offer argyfwng ar gael megis fflachlamp, ffôn symudol gyda batri llawn, a pecyn cymorth cyntaf gan gynnwys unrhyw feddyginaethau yr ydych ei angen?
999 mewn argyfwng

Gofynnwch am yr Heddlu ac yna Achub Mynydd. Byddent yn galw’r tîm priodol.

Cofiwch sôn yn syth am unrhyw argyfwng meddygol.

cadwch eich ffôn ymlaen

Bydd Achub Mynydd yn eich ffonio ac yn gyrru neges atoch er mwyn ein helpu i’ch darganfod. Ceisiwch arbed y batri wrth ddim ond ei ddefnyddio ar gyfer argyfwng.

Rhannwch rifau eraill aelodau eich grwp gyda’r tîm.

cadwch yn gynnes

Sicrhewch eich bod yn cadw’n gynnes wrth ddefnyddio eich dillad sbar ac unrhyw gysgod sydd ar gael.

Efallai y bydd cryn amser cyn i chi gael eich hachub.

aros yn ddiogel

Os yr ydych ar dîr seth arhoswch i gael eich hachub.

Ceisiwch aros gyda’ch gilydd a gwneud eich hunain yn weladwy o lwybrau. Sicrhewch eich bod ddim yn gwastraffu batri eich fflachlamp.

en_GBEnglish (UK)